Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 1
Mawrth 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(15 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cap prisiau newydd Ofgem ar drigolion yng Nghymru?
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog roi datganiad yn sgil RCN Cymru yn gwrthod cynnig cyflog ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23?
5 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
6 Dadl Plaid Cymru - Cysylltiadau diwydiannol
(60 munud)
NDM8210 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn mynegi undod â gweithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru sy'n gweithredu'n ddiwydiannol mewn ymateb i flynyddoedd o doriadau tymor real i'w cyflog.
2. Yn credu bod gallu gweithwyr i fynd ar streic i wella eu cyflog ac amodau yn hawl ddemocrataidd sylfaenol.
3. Yn credu bod Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y DU yn ymosodiad uniongyrchol ar bobl sy'n gweithio a'r undebau llafur y maent yn trefnu o fewn iddynt.
4. Yn gresynu at y ffaith y byddai'r Bil yn rhoi pŵer gorfodol sylweddol i Lywodraeth y DU gwtogi ar allu undebau llafur a gweithwyr i gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol cyfreithlon.
5. Yn gresynu at y ffaith bod y Bil hefyd yn gwrthdaro ag amcanion y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, yn enwedig ymrwymiad gwneud Cymru'n genedl gwaith teg.
6. Yn cefnogi pob undeb llafur ac holl weithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Bil.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i agor trafodaethau ynghylch datganoli cyfraith cyflogaeth er mwyn sicrhau hawliau cyfunol a phwerau bargeinio gweithwyr yng Nghymru.
Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i ddiwygio'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu gweithredu diwydiannol i sicrhau bod lefelau gwasanaeth gofynnol yn cael eu gosod mewn sectorau allweddol yn ystod cyfnodau o streic.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod ac yn parchu cryfder y teimladau a ddangoswyd gan aelodau'r undebau llafur drwy bleidleisiau ar streicio a chynnal gweithredu diwydiannol.
2. Yn credu bod Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymosodiad ar undebau llafur a hawl sylfaenol gweithwyr i streicio.
3. Yn gresynu at y diffyg ymgysylltu llwyr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y ddeddfwriaeth hon cyn ei chyflwyno ac yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru fel y nodir yn ei Datganiad Ysgrifenedig a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
4. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru, a’r holl undebau llafur a gweithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Bil.
Datganiad Ysgrifenedig: Safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Gymraeg
(60 munud)
NDM8212 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Cymraeg 2050: Rhaglen Waith 2021 i 2026.
2. Yn mynegi pryder am y ffaith bod Cyfrifiad 2021 wedi datgelu y bu gostyniad o dros 20,000 yn nifer y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
3. Yn credu bod y Gymraeg yn ased diwylliannol sy'n dod â llawer o fanteision i Gymru.
4. Yn cydnabod yr amrywiaeth mewn hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych i mewn i gyfleoedd i ehangu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg o ddydd i ddydd.
Cymraeg 2050: Rhaglen Waith 2021 i 2026
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod ffynonellau data eraill yn dangos bod nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg a bod niferoedd cynyddol o blant yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg.
Yn croesawu:
(a) bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd i gynyddu mynediad at gyfleoedd dysgu Cymraeg ar draws ysgolion o bob categori iaith;
(b) gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i gryfhau'r Gymraeg ar lefel gymunedol; a
(c) gwaith ein sefydliadau partner megis Mudiad Meithrin, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Mentrau Iaith, ac eraill, i ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith.
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8211 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Dydd Gŵyl Dewi - hunaniaeth Gymreig yng Nghasnewydd
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 7 Mawrth 2023